English
© Ffarm Afonwen 2007 cynlluniwyd gan Iwan ap Trefor a Tim Lawson  

   Newydd ar gyfer 2008 – Pwll nofio!!

 

  Bythynnod
 
  Ar y farm
 
  Merlota
 
  Yr ardal
 
  Cysylltu
 
  Cyswllt
 

Cerdded
Gallwch gerdded ar dir y ffarm sy’n arwain at y llyn, neu yn mynd ymlaen i’r traeth. Os byddwch yn lwcus gallwch weld y morloi ar dolffiniaid yn y bae. Mae llwybr cerdded a beics yn mynd heibio’r ffarm yr holl ffordd i Bwllheli, a rhannol i Gricieth.

    Croeso
 
 

Gwylio Adar
Wrth y llyn mae cuddfan adar, lle gallwch eistedd a gwylio adar o bob math yn nhawelwch y caeau. Cofiwch ddod a ysbienddrych!

Pysgota
Llyn naturiol sy’n cynnig pysgod dwr croyw, fel carp a brachyn. Lle da i ddal ‘sliwod. Cofiwch ddod â’ch offer pysgota.

 

 

Ystafell Gemau
Lle cyfleus i adael y plant – sy’n cynnwys 2 fwrdd snwcer, bwrdd darts a tennis bwrdd. Mae’r holl offer i ddefnyddio’r ystafell ar gael yn y ty ffarm.

 

 

Cwrt tennis
Newydd ar gyfer 2006, cwrt tennis tarmac maint llawn. Cyfle i fwynhau gweithgaredd yn yr awyr agored, racedi a pheli ar gael yn y ty ffarm.

 

Lle Chwarae
Mae Ffarm Afonwen yn cynnig digon o amrywiaeth i blant chwarae yn ddiogel. Dau le chwarae, siglenni, si-so, sleid, ffrâm ddringo a phwll tywod. Gemau ar yr iard, a thrac i chwarae teganau mawr fel tractorau a cheir bach. Cae i chwarae pêl droed sy’n hynod boblogaidd gyda’r nos hefo’r holl deuluoedd.

 

Ffarm Afonwen
Ffarm weithio ydy Afonwen, yn tyfu cnydau. Os byddwch yma yn y Gwanwyn cewch weld yr wyn: Mis Mai cyfle i weld y cneifio, ac yn yr haf cyfle i weld y cnydau yn cael eu torri ac wrth gwrs - peidiwch anghofio’r Ceffylau!

 

Traeth Afonwen
Traeth tywodlyd ,o fewn 10 munud o gerdded o’r ffarm trwy’r caeau.
“Lle arall yn y Byd gewch chi y mor ar mynyddoedd a dau gastell yn yr un llun”{Almaenwr ar ei wyliau 2006).

 E-bost bythynnod   |   ar y ffarm   |   merlota  |   yr ardal   |   cysylltu  |   cyswllt  |   croeso    
 niaparry@aol.com