English
© Ffarm Afonwen 2007 cynlluniwyd gan Iwan ap Trefor a Tim Lawson  

 
Crynhoad o syniadau gan Tim Lawson a`i deulu sydd ar y dudalen yma , ar gyfer ymweld a nhw tra ar eich gwyliau yn Afonwen. Mae hi ai theulu wedi bod yn dychwelyd yma ers blynyddoedd bellach.

 

 

Traethau Lleol
 
    Bythynnod
 
  Ar y farm
 
  Merlota
 
  Yr ardal
 
  Cysylltu
 

Llanbedrog :7 milltir
Gyrrwch drwy Bwllheli am Abersoch i bentref Llanbedrog. Siop a bistro a thoiledau , parcio am ddim i aelodau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwerth ymweld ag Oriel Plas Glyn Y Weddw a'r gerddi, a bwyty croesawgar.

 

  Cyswllt
 
  Croeso
 
 

Abersoch :9 milltir
Gyrrwch drwy Abersoch am y traeth, neu ymlaen ac i`r chwith am y Clwb Golff. Traeth tywodlyd glan, digon o siopau a llefydd bwyta da yn y pentref.

Cricieth: 3 milltir
I`r dde allan or ffarm am Gricieth. Mae
traeth bob ochr i`r castell a pharcio ger
y môr. Traethau caregog ond lle bendigedig
i dreulio prynhawn yn pysgota yn y creigiau. Digon o siopau a llefydd bwyta da yn y dref.

 

 

Morfa Bychan :8 milltir
Traeth arbennig, lle gallwch fynd a'r car ar y tywod i barcio. Tywod mor bell a allwch weld. Mae`r twyni tywod dan ofal gwarchodfa gwyddonol arbennig SSSI , ac mae`r golygfeydd dros Fae Ceredigion yn werth chweil. Gyrrwch i Borthmadog a throi wrth Woolworth, dilyn yr arwyddion am Morfa Bychan. Mae tâl am barcio ar y traeth

Morfa Nefyn 12 milltir
Os yw'r tywydd ar y ffarm yn wael , ewch i Ogledd y Benllyn am Morfa Nefyn. Traeth tywodlyd braf. Parciwch o dan y Clwb
Golff a cherdded i lawr yr allt serth ir traeth. Caffi bach yno , ac os gerddwch ymlaen , dewch at Dafarn Ty Coch . Wrth fynd
ymlaen o Nefyn, mae traethau Porth Oer, Porth Iago A Phorth Colmon.

 

 

Llefydd i weld
 

 

Pentref Portmeirion (1/4 awr}
Pentref Eidalaidd Clough Williams Ellis,
gyda`r pensaernïaeth a'u gerddi unigryw. Gwesty moethus Portmeirion, a Chastell Deudraeth yn arbennig ar gyfer achlysuron arbennig. Digon o siopau gwahanol yn cynnwys siop crochenwaith Portmeirion.

 

 

Yr Wyddfa(3/4 awr)
Mynydd uchaf Cymru- rhaid ei goncro. Dilynnwch y llwybrau a'r arwyddion a pheidiwch au mentro ar dywydd gwael. Bwyd ar gael yn y bwyty newydd -Hafod Eryri - fydd ar agor 2008 ar gopa`r Wyddfa.

Rheilffordd Ffestiniog(1/4 awr)
O Borthmadog, ewch ar y trên dros y mynyddoedd i Flaenau Ffestiniog. Ewch am bicnic i Tan y Bwlch, a cherdded y llwybrau gan fwynhau y golygfeydd.
 

 

Chwarel Llechwedd(1/2awr)
Cyfle gwych i brofi bywyd y chwarelwr. Trên o dan ddaear i grombil y chwarel. Lle da ar ddiwrnod poeth er mwyn cadw`n oer.

Pentref Llanystumdwy( 5 munud)
Pentref prysur a digon o atyniadau yno. Pentref enwog Lloyd George ac Amgueddfa ardderchog. Gwerth ymweld a'r lle, a cherdded ar hyd afon Dwyfor.
 E-bost bythynnod  |   ar y ffarm   |   merlota  |   yr ardal  |   cysylltu  |   cyswllt  |   croeso    
 niaparry@aol.com